Y Cyfeirlyfr
Yr unig gronfa ddata o’i math, mae gan Gyfeirlyfr Cerddoriaeth Cymru fanylion 1,700 o gwmnïau sy’n ymwneud â’r busnes cerddoriaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys manylion rhai sefydliadau yn y DU a rhai rhyngwladol sy’n ddefnyddiol os ydych chi angen cymorth, gwybodaeth neu wasanaethau o du hwnt i Gymru.
Mae’r Cyfeirlyfr wedi’i rannu’n gategorïau yn ôl y math o fusnes, fel labeli recordiau a mannau gwerthu tocynnau. O fewn pob categori, gallwch chwilio am fusnesau sydd wedi’u lleoli mewn mannau penodol. Mae hefyd opsiwn chwilio cyflym ar ochr dde’r dudalen hon lle gallwch deipio’r hyn rydych chi’n chwilio amdano neu enw busnes, ee 'recording studios Cardiff' neu 'Welsh Music Foundation'.
Mae croeso i chi gyflwyno manylion i’w cynnwys yn y Cyfeirlyfr yma. Bydd y manylion yn cael eu gwirio a’u cyhoeddi, ac yna byddan nhw’n ymddangos yng nghopi caled nesaf y Cyfeirlyfr. Os oes angen i chi gywiro neu ddiweddaru manylion sydd eisoes wedi’u cynnwys, cysylltwch â’r WMF: directory@welshmusicfoundation.com. Ni chodir tâl am gynnwys manylion eich busnes.
Mae gweithgareddau yng Nghymru wedi’u gwasgaru dros ardal eang ac mae cwmnïau newydd yn cael eu sefydlu’n gyson. Waeth a ydych chi’n cynhyrchu cerddoriaeth yn eich ystafell wely, yn label recordiau yn gweithio yn eich cartref, yn hyrwyddwr, yn rheolwr, yn gyhoeddwr… rydych chi’n rhan o ddiwydiant cerddoriaeth Cymru ac rydyn ni eisiau’ch manylion!
GWADIAD – Gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y manylion amrywiol yn y Cyfeirlyfr. Mae cynnwys a dosbarthiad y manylion yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd gan y WMF, ond, yn naturiol, gall gwybodaeth newid o dro i dro. Bwriedir i’r penawdau a ddefnyddir yn y Cyfeirlyfr hwn fod yn dermau chwilio defnyddiol i ddefnyddwyr y Cyfeirlyfr ac ni ddylid eu hystyried yn ddisgrifiadau masnach fel y’u diffinnir yn Neddf Disgrifiadau Masnach 1968.

