Prosiect Dan y Cownter
Cyflwyniad
Gwelodd cyfres Dan y Cownter olau dydd yn dilyn ymchwil a gomisiynwyd gan y Welsh Music Foundation ac S4C i ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Y prif gasgliad oedd bod diffyg gwybodaeth am artistiaid, digwyddiadau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth Gymraeg, yn enwedig y tu allan i’r ardaloedd lle cynhelir y mwyafrif o ddigwyddiadau. Fodd bynnag, nid barn negyddol ar y gerddoriaeth ei hun oedd wrth wraidd hyn, oherwydd cafwyd ymateb eithriadol o gadarnhaol pan chwaraewyd enghreifftiau mewn grwpiau ffocws. Dywedodd llawer o’r rhai fu’n cymryd rhan nad oedd digon wedi’i wneud i’w gwneud nhw’n ymwybodol o’r gerddoriaeth ac y bydden nhw’n datblygu diddordeb pellach yn llawer o’r artistiaid a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil pe baen nhw’n cael eu marchnata’n well. O ganlyniad, cysylltodd y WMF â Bwrdd yr Iaith Gymraeg gyda’r syniad o greu CD i’w ddosbarthu am ddim ledled Cymru ymhlith cynulleidfa graidd bosib cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Yn anffodus, mae holl gopïau Dan y
Cownter 1 a 2 eisoes wedi cael eu dosbarthu!
Dan y Cownter
Lansiwyd y CD cyntaf, ‘Dan y Cownter’, ar 2 Mehefin 2005 yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd. Gyda chaneuon gan 10 artist Cymraeg newydd a chyffrous yn amrywio o hip hop i gerddoriaeth pop, o indie i gerddoriaeth werin, roedd yn rhoi blas ar y sîn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn 2005. Dosbarthwyd llyfryn 16 tudalen yn cynnwys manylion busnesau a sefydliadau sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, gan gynnwys labeli recordiau, gwyliau, gigs, gwefannau a chylchgronau ffans, gyda’r CD. Cynhyrchwyd deng mil o gopïau ac fe’u dosbarthwyd gan Fwrdd yr Iaith a’i sefydliadau partner yn y misoedd yn dilyn y lansiad.
RHESTR CANEUON
1) Brigyn - Sonar (Gwynfryn Cymunedol)
2) Cofi Bach & Tew Shady - Triwch Hi Ar (Recordiau Menai)
3) Ashokan - Dim Coes, Dim Brec (Dockrad)
4) Alun Tan Lan - Cân Beic Dau (Rasal)
5) Poppies - Sex Sells (Ciwdod)
6) Texas Radio Band - Chwaraeon (Recordiau Slacyr)
7) Frizbee - Ti (Si Hei Lw) (Recordiau Cosh)
8) Pep Le Pew - Cwffio, Caru a Magu (Recordiau Slacyr)
9) Winabego - Unarddeg Dyn i Lawr (Rasal)
10) Jakokoyak - Murmur (Peski)
Dan y Cownter yn Fyw
Fel rhan o’r ymgyrch i hyrwyddo CD Dan y Cownter, cynhaliwyd gig yn Barfly, Llundain, ddechrau 2006 i godi ymwybyddiaeth y diwydiant cerddoriaeth o ansawdd y gerddoriaeth sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd. Bu tri o’r artistiaid sydd wedi’u cynnwys ar y CD yn perfformio ar y noson sef The Poppies, Jakokoyak ac Alun Tan Lan. Daeth tyrfa dda i’r gig ac o ganlyniad i’r CD, cafodd The Poppies a Jakokoyak sesiynau ar Radio 1.
Dan y Cownter 2
Yn sgil yr ymateb cadarnhaol i’r CD Dan y Cownter cyntaf, penderfynwyd rhyddhau un arall i adeiladu ar yr ymwybyddiaeth a grëwyd o artistiaid Cymraeg ymhlith eu cynulleidfa graidd. Dewiswyd deg artist newydd, pob un ohonyn nhw o label recordiau Cymraeg gwahanol. Tyfodd y llyfryn o 16 tudalen i 24 tudalen, arwydd cadarnhaol o’r cynnydd mewn gweithgarwch yn niwydiant cerddoriaeth Cymru. Y tro hwn, lansiwyd y CD, Dan y Cownter 2, yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ddechrau Awst 2006. Unwaith eto, cynhyrchwyd a dosbarthwyd deng mil o gopïau gan Fwrdd yr Iaith a’i sefydliadau partner ledled Cymru. Yn sgil yr ymateb cadarnhaol i’r CD gwreiddiol, gwelwyd cynnydd amlwg mewn ymholiadau wrth hyrwyddo’r ail fersiwn. Unwaith eto, gwelwyd bod diddordeb gwirioneddol mewn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes ac mae pob un o’r artistiaid dan sylw wedi gwerthu mwy o CDs diolch i Dan y Cownter 2.
RHESTR CANEUON
1) Radio Luxembourg - Pwer y Fflwer (Ciwdod)
2) Swci Boscawen - Adar y Nefoedd (Rasp)
3) Mim Twm Llai - Rhosyn Rhwng fy Nannedd (Crai)
4) Genod Droog - Breuddwyd Oer (Slacyr)
5) Stiches - Dan Dô (Peski)
6) Richard James - Tir a Môr (Boobytrap)
7) Sibrydion - Blithdraphlith (Rasal)
8) Y Diwygiad - Mewn Can Mlynedd (Skippin Beats)
9) Ryan Kift - Gola Ola
10) Acid Casuals - Y Ferch ar y Cei yn Rio (Placid Casual)
Stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol
I gyd-fynd â lansio’r ail CD, penderfynodd y WMF drefnu stondin ar gyfer labeli recordiau Cymraeg annibynnol yn yr Eisteddfod Genedlaethol dan faner Dan y Cownter. Yr Eisteddfod yw un o wythnosau pwysicaf y flwyddyn i’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg ond ni all llawer o’r labeli llai fforddio talu am stondin yn yr ŵyl. Trwy ddarparu un stondin ar gyfer dros 12 o labeli Cymraeg, fe lwyddon nhw i hyrwyddo’u cerddoriaeth i dyrfaoedd yr Eisteddfod – dros 20,000 o bobl y dydd ar gyfartaledd – a chynyddu ymwybyddiaeth o’r artistiaid yn un o brif ddigwyddiadau diwylliannol Cymru.

