Home > Gwasanaethau > Addysg a Hyfforddiant

Addysg a Hyfforddiant

Addysg a Hyfforddiant

Llaw i fyny pawb sy’n credu fod gormod o gyrsiau academaidd yn arbenigo ar bynciau’n ymwneud â’r busnes cerddoriaeth...

Na. Na ninnau chwaith. Datgan yr amlwg yw dweud mai datblygu sgiliau arbenigol yng Nghymru yw’r ffordd orau ymlaen i fyfyrwyr a busnesau fel ei gilydd.

Ar hyn o bryd, mae WMF yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr addysg uwch yng Nghymru i greu a datblygu cyrsiau a fydd yn cyflwyno’r sgiliau hyn. Rydyn ni’n falch o allu cynnig y rhaglen hyfforddi ‘Rheoli Busnes Cerddoriaeth’ ar y cyd â Sgiliau Creadigol a Diwylliannol.

Bydd y Rhaglen Datblygu Busnes yn rhoi amser i’r rhai sy’n mynychu i ddadansoddi ac archwilio realiti datblygu busnesau cerddoriaeth annibynnol yn y diwydiant heddiw gyda golwg ar wneud penderfyniadau clir am eu busnes a’u harferion er mwyn cyflawni amcanion personol a busnes.

Mae i’r Rhaglen, a gynhelir yng Nghaerdydd rhwng Tachwedd ’06 a Mawrth ’07 ddeg o fodiwlau. Saif pob modiwl ar ei ben ei hun ac mae’n canolbwyntio ar faterion penodol a’u goblygiadau, rhwystrau i ddatblygu busnes, cyfleoedd a chamau amgen. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cwmpasu detholiad eang o bynciau a materion sy’n rhaid eu deall am y farchnad gyfnewidiol sydd ohoni. Dyma’r tro cyntaf i raglen o’r fath gael ei chynnal yng Nghymru.

Yn y gorffennol, bu WMF yn ymwneud â’r digwyddiadau canlynol yng Nghymru:

- Mawrth 2004: Sioe Deithiol Sound Advice ar y cyd â BPI ac AIM.

- Gorffennaf 2004: Ysgol Haf: ‘Making Money out of Music’

Hefyd, edrychwch ar adran Seminarau a Digwyddiadau y safle.

Am fwy o wybodaeth am Addysg a Hyfforddiant, cysylltwch â ni.