Hyfforddiant
Llaw i fyny pawb sy’n credu fod gormodedd o gyrsiau academaidd sy’n arbenigo ar bynciau sy’n ymwneud â’r busnes cerddoriaeth...
Na. Nid ydym ninnau’n cytuno chwaith. Datgan yr amlwg yw dweud mai datblygu sgiliau arbenigol yng Nghymru yw’r ffordd orau ymlaen i fyfyrwyr a busnesau fel ei gilydd.
Mae pob un o’n seminarau yn cynnig amrediad o gyfleoedd i fusnesau Cymreig i gyfarfod arbenigwyr yn y diwydiant ac i ddysgu ac i berffeithio eu gwybodaeth mewn meysydd arbennig. Mae seminarau yn y gorffennol wedi cynnwys sioeau teithiol ar y cyd â BPI, AIM ac UKTI. Mae’r rhain hefyd wedi amrywio o’r defnydd o gerddoriaeth mewn ffilmiau i sesiynau cymorth cyfreithiol un i un gyda chyfreithwyr blaenllaw y cyfryngau. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am ein seminarau yn y gorffennol a’r rhai sydd i ddod.
Hyfforddiant Rheoli Busnes Cerddoriaeth
Yn 2006, roedd WMF yn falch o allu cynnig y rhaglen hyfforddi cerddoriaeth gyntaf i’w chynnal yng Nghymru. Mae’r rhaglen hyfforddi ‘Rheoli Busnes Cerddoriaeth’ yn cael ei chynnal ar y cyd â Sgiliau Creadigol a Diwylliannol.
Mae’r Rhaglen Ddatblygu Busnes hon yn rhoi amser i’r ugain sy’n mynychu, ac sy’n dod o bob rhan o Gymru, i ddadansoddi ac archwilio realiti datblygu busnesau cerddoriaeth annibynnol yn y diwydiant heddiw, gyda’r bwriad o wneud penderfyniadau clir ynglŷn â’u busnesau a’u harferion er mwyn cyflawni amcanion personol a busnes ymarferol.
Mae’r Rhaglen, a gynhelir yng Nghaerdydd rhwng Tachwedd 06 a Mawrth 07, yn cynnwys 10 modiwl. Mae pob modiwl yn ddigwyddiad ‘annibynnol’ sy’n canolbwyntio ar faterion penodol a’u goblygiadau, rhwystrau i ddatblygu busnes, cyfleoedd a chamau amgen. Ar y cyd maent yn cwmpasu amrediad cynhwysfawr o bynciau a materion sy’n rhaid eu deall yn y farchnad gyfnewidiol sydd ohoni.
(8 Tachwedd 2006)
Modiwl #1: Owner Management in the Music Industry:
The Reality
- Amcanion, risg ac ymarferoldeb
- Marchnata!
- Mynediad i gyllid
- Gweithgareddau a ffrydiau incwm
- Rhagolygon a rhagamcaniadau
- Sgiliau a systemau gweinyddu/rheoli
- Rheoli prosiectau
- Gweithredu ac amddiffyn cyfreithiol
(9 Tachwedd 2006) Modiwl #2: Contracts, Agreements & Relationships
- Pobl ac endidau cyfreithiol
- Cysylltiadau band / artist
- "Penaethiaid" allweddol Cytundebau
- Fframweithiau a hyblygrwydd
- Rolau a gwobrau: Perchnogaeth a chyfranogiad
- Cyfathrebu
- Dynameg ryngbersonol a realiti masnachol
- Cysylltiadau masnachu
(29 Tachwedd 2006) Modiwl #3: Artist Management
- Rolau a modelau busnes: dewisiadau ac opsiynau
- Cynllunio strategol tymor byr a thymor hir
- Arweinyddiaeth, seicoleg ac adeiladu tîm
- Gwrthdaro buddiannau?
- Cytundebau rheoli a chynseiliau cyfreithiol
- Cefnogwyr, cynulleidfaoedd a defnyddwyr
(30 Tachwedd 2006) Modiwl #4: Music Publishing
- Sefydlu a datblygu eich busnes cyhoeddi
- Adeiladu proffiliau a lleoli
- Trafod cytundebau ysgrifenwyr ac is-gyhoeddi
- Gweithio gyda chwmnïau cyhoeddi cerddoriaeth
- Cyhoeddi cerddoriaeth wedi ei recordio a cherddoriaeth byw: all-lein, ar-lein
a symudol
- Cael eich talu: olrhain breindaliadau ac archwilio
(29 Ionawr 2007) Modiwl #5: The Record Business
- Sefydlu a datblygu eich cwmni cynhyrchu neu eich label(i) record
- Cyllidebu a gweinyddu
- Dosbarthu ffisegol a digidol a manwerthu
- Marchnata, y wasg a hyrwyddo
- Datblygu brand
- Cytundebau artistiaid, cynhyrchwyr a chymysgwyr/ailgymysgwyr
- Gweithio â chyrff hawliau cyfagos
(30 Ionawr 2007) Modiwl #6: Music Sector Marketing
- Adnabod eich Marchnad: R&B
- Datblygu eich brand, strategaeth farchnata, cynllun a chyllideb
- Offer ac arferion y diwydiant
- Hysbysebu hyrwyddo gwerthiant ac ymgyrchoedd ymateb uniongyrchol
- Strategaethau radio, teledu, Ar-lein a Symudol
- Marchnata Ymddygiad, Gorilla, Ambient a Chaos
- Rheoli a datblygu marchnata
(26 Chwefror 2007) Modiwl #7: The Live Music Industry
- Datblygu cynulleidfa
- Gweithio gydag asiantau: gigs a theithiau; strategaeth a chymorth
- Gweithio gyda hyrwyddwyr: symud ymlaen a hyrwyddo
- Teithio a chynhyrchu: costau, logisteg a chyfathrebu
- Cynllunio a chyllidebu: ymarferoldeb a llif arian
- Contractau a chytundebau
(27 Chwefror 2007) Modiwl #8:
Music in Audiovisual Productions
- Comisiynau
- Cydamseru, datblygu eilaidd a thrydyddol
- Brandiau, hysbysebu a hyrwyddo
- Ffilmiau hir, gemau a theledu
(26 Mawrth 2007) Modiwl #9:
Music in the Digital & Mobile World
- Mynediad i’r farchnad: cydgrynhoi a dosbarthu – dewisiadau ac opsiynau
- Marchnata a hyrwyddo ar-lein a symudol
- Cyfleoedd manwerthu: gwerthu unedol a thrwy gatalog
- Gwasanaethau B2B a B2C: mynediad i gerddoriaeth, perchnogaeth hawliau a
thrwyddedu
- Ffilterau, tanysgrifiadau a bwndelu
(27 Mawrth 2007) Modiwl #10: Merchandise, Brands, Media Relations & Endorsements
- Modelau busnes, costau a ffrydiau incwm
- Marchnata: logisteg, materion a dewisiadau
- Ymgymryd â a gweithio â brandiau
- Cyfleoedd yn y cyfryngau a “phlaned enwogion” (“planet celebrity”)
I gael mwy o wybodaeth am Hyfforddiant ac Addysg, cysylltwch â ni

